Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 3
Hydref 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4646
------
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Mynegodd y Llywydd gydymdeimlad ar ran y Cynulliad â phawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad erchyll yn Las Vegas ddydd Sul.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.21
Dechreuodd yr eitem am 14.35
Dechreuodd yr eitem am 16.28
Dechreuodd yr eitem am 17.17
Dechreuodd yr eitem am 18.00
NDM6517 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.20
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6516 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg a gyhoeddwyd fel testun ymgynghoriad ar 9 Awst 2017.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi amrywiaeth y safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad cryno o'r ymatebion i'r alwad am dystiolaeth, 'Paratoi ar gyfer Bil y Gymraeg', a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
11 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi cylch gwaith cul Papur Gwyn Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
4 |
40 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd unrhyw wanio o ran hawliau cyfreithiol presennol siaradwyr Cymraeg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
10 |
2 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwaith rheoleiddio a gwaith hyrwyddo mewn perthynas â'r Gymraeg yn cael eu cwblhau gan ddau gorff gwahanol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
11 |
30 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu awydd Llywodraeth Cymru i leihau'r lefel o fiwrocratiaeth sydd yn bodoli yn system safonau'r iaith Gymraeg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
1 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud ymlaen gyda'r safonau iaith ar gyfer iechyd a chymdeithasau tai ar fyrder, ac i gyhoeddi amserlen ar gyfer cyhoeddi safonau i'r sectorau ynni, cwmnïau dŵr, telathrebu, cwmnïau trenau a bysus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
30 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y safonau iaith i weddill y sector breifat.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
16 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu yn glir ei rhesymeg dros gynnig cael gwared ar rôl Comisiynydd y Gymraeg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
30 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6516 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer Bil y Gymraeg a gyhoeddwyd fel testun ymgynghoriad ar 9 Awst 2017.
2. Yn nodi amrywiaeth y safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad cryno o'r ymatebion i'r alwad am dystiolaeth, 'Paratoi ar gyfer Bil y Gymraeg', a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd unrhyw wanio o ran hawliau cyfreithiol presennol siaradwyr Cymraeg.
4. Yn croesawu awydd Llywodraeth Cymru i leihau'r lefel o fiwrocratiaeth sydd yn bodoli yn system safonau'r iaith Gymraeg.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y safonau iaith i weddill y sector breifat.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
4 |
11 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 19.05
Daeth y cyfarfod i ben am 19.09
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 4 Hydref 2017